Beth sy’n digwydd i bobol PR pan maen nhw’n rhoi’r gorau i farchnata a sbin ddoctora? Ail gydio yn y brwsh paent, fu’r hanes yn achos Wynne Melville Jones, Strata Matrix gynt. Ac yntau’n gyn-fyfyriwr gydag Ysgol Gelf Abertawe, ar ôl cyfnod hir yn y byd busnes a chyfathrebu mae’r gŵr o Landre wedi ail ymgymryd â chymysgu paent a thrin a thrafod lliwiau. Wedi arbrofi gydag amrywiaeth o arddulliau gwahanol, mae’ e wedi canfod yr hyn y mae e fwyaf cartrefol yn ei wneud – paentio golygfeydd mewn olew. Ymddeol o’r busnes PR neu beidio, mae’r elfen naratif dal yn bwysig iddo. “Os oes stori a neges y tu ôl i’r llun mae’r cyfan yn golygu mwy na llunio llun sy’n plesio’r llygaid yn unig.” meddai. Mae’r ddelwedd uchod Mynydd Gorddu yn deyrnged i’r seiciatrydd, gwleidydd a’r arloeswr ynni cynaliadwy, Dr Dafydd Huws a gododd fferm wynt ar dir ei fferm ger Bontgoch yng ngogledd Ceredigion. Am ragor o heip, gwelwch www.orielwynmel.co.uk
0 Comments
Leave a Reply. |
Yr Artist /
|