Mae WYNNE MELVILLE JONES (WYN MEL) yn enw cyfarwydd yn sgil ei waith arloesol ym myd cysylltiadau cyhoeddus a'i ymwneud a mudiad yr Urdd.
Yn gyn-fyfyriwr celf bellach wedi wedi dychwelyd at ei ddiddordeb pennaf - celfyddyd gain. Mae'n gweithio o'i gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn (Llandre) Ceredigion ac yn weithgar yn y gymuned, yn Gymro brwd ac yn Gardi balch. Sefydlodd y cwmni PR dwyieithog cyntaf yng Nghymru StrataMatrix yn 1979 a bu'n ei reoli yn llwyddiannus am 30 mlynedd. Mae'n Llywydd Anrhydeddus yr Urdd ac ef yw tad Mistar Urdd - y cymeriad trilliw sy'n dal yn fferfryn gan blant Cymru wedi 36 o flynyddoedd. Roedd e hefyd yn un o sefydlwyr y cylchgrawn wythnosol Golwg ac mae'n dal ei gysylltiad gyda Chwmni Golwg Cyf.. Wedi ail gydio yn y brwsh paent rhoddodd her i'w hun i baentio Cors Caron yn y pedwar tymor. Mae iconau Cymreig yn gyson yn dal ei lygaid a daw ei ysbrydoliaeth o'i fagwraeth yn Nhregaron ac o dreftadaeth a diwylliant y cymunedau yn y gorllewin. Does dim dwywaith bod harddwch Sir Benfro yn ei swyno'n fawr. Mae nifer o'i luniau wedi creu diddordeb ymhell y tu hwnt I Gymru. Mae ei ddarlun o Soar-y-Mynydd yn eiddo i gyn-Arlywydd UDA Jimmy Carter ac mae ei lun o Ynys Llanddwyn ym meddiant casglwr celf o'r Almaen. Mae ei ddarlun o Graig Elvis, Eisteddfa Gurig wedi creu cryn ddiddordeb yn America ac mae'r llun bellach yn Graceland Tennessee, cyn gartref Elvis sy nawr yn amgueddfa ac yn archif . Cyhoeddwyd ei hunangofiant Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da gan Y Lolfa yn 2010 ac yn 2012 gwireddwyd un o'i gynlluniau arloesol pan agorwyd Llwybr Llen Llanfihangel Genau'r Glyn. Mae'r llwybr a adeiladwyd mewn coedwig o eiddo'r teulu yn ddathliad parhaol o draddodiad barddol y fro ac mae ar agor i'r cyhoedd 365 y flwyddyn. Mae arddangosfeydd o'i waith wedi eu cynnal yn Aberystwyth, Abergwaun, Aberaeron,Tregaron, Y Bala, Llandeilo, Caerdydd a Llundain. Ei nod yw ceisio cyfleu cymeriad a naws unigryw Cymru drwy gyfrwng paent ar ganfas. |
WYNNE MELVILLE JONES (WYN MEL) became known throughout Wales as a pioneer of bilingual PR activities and for his involvement in Wales' largest youth organisation The Urdd. The former art student has now returned to his main interest - visual art. He works from his home in Llanfihangel Genau'r Glyn (Llandre) in Ceredigion and he is active in the local community.
He is very proud of his roots in Ceredigion and feels a responsibility for things Welsh. In 1979 he established Wales' first bilingual PR agency StrataMatrix and ran the company successfully for 30 years. He is Honorary Life President of the Urdd organisation and he created the ever popular Mr Urdd character - a hot favourable with Welsh youngsters for over 40 years. He was also one of the founders of the weekly magazine Golwg and retains his place as a company Director. On returning to the paint brush he gave himself the challenge to paint Cors Caron, (the renowned nature reserve near Tregaron) in the four Seasons. He has also painted many Welsh cultural and heritage iconic sites and his inspiration comes from his upbringing in Ceredigion and from the rich heritage and culture of the various communities in Wales. His art has also generated interest way beyond the borders of Wales. His interpretation of Soar-y-Mynydd, the most isolated chapel in Wales is in former US President Jimmy Carters' art collection and his picture of Llanddwyn was bought by a German art collector. His painting of the Elvis Rock at Eisteddfa Gurig has generated considerable interest in the US and the picture is now at Graceland Tennessee former home of Elvis which is now dedicated as a museum and archive His autobiography Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da was published by Y Lolfa in 2010.and another of his projects The Llanfihangel Genau'r Glyn Poetry Path was officially opened in 2012. The Path celebrates the rich poetic tradition in the community of Llandre, has been built in woodland owned by the family, and is open to the public 365 days a year. Exhibitions of his work have been held in Aberystwyth, Tregaron, Fishguard, Bala, Llandeilo, Aberaeron, Cardiff and London. His aim is to capture the character and mood of Wales in paint on canvas. |
Brwydr Bryn Glas,Pilleth oedd un o lwyddiannau mwyaf byddin Owain Glyndwr yn erbyn y Saeson. Yn ystod y frwydr waedlyd ar 22 Mehefin 1402 llabyddiwyd cannoedd lawer o fyddin Lloegr. Yn ol y son, aeth gwragedd y milwyr Cymreig o gwmpas cyrff meirwon y Saeson a'u llurginio . Cafodd y frwydr effaith andwyol ar lywodraeth Lloegr am gyfnod hir ac mae cyferiad at y frwydr yn Henry IV William Shakespeare - Rhan 1.
Saif Pilleth gerllaw Llanandras ym Maesyfed ym Mhowys ac ar lethrau'r bryn y tu ol I Eglwys S. Mair plannwyd coed I gofnodi'r frwydr. Mae'n olygfa drawiadol ac mae'r awyrgylch yn iasol. Mae ymweld a'r lle yn brofiad cofiadwy. |
The Battle of Bryn Glas, Pilleth was one of the great successes of Owain Glyndwr's Welsh army against the English.. This bloody battle took place on 22 June 1402 and many hundreds of English soldiers were slaughtered. It is said that the wives of the Welsh soldiers obscenely mutilated the dead bodies of the English. The battle caused considerable disruption in the English government for some time afterwards and the battle is mentioned in William Shakespeare's Henry IV Part 1.
Pilleth lies on the Welsh border near Presteigne in the Radnor countryside in Powys. On the sloping hillside next to S. Mary's Church Wellingtonia trees have been planted to commemorate the Battle. It is an eerie and a striking feature on the landscape. A visit to the site will linger in one's memory for a long time. |
Mae'r darlun olew hwn o Landdwyn wedi ei werthu i gasglwr celf yn yr Almaen.
Mae Ynys Llanddwyn yn adnabyddus fel cartref Dwynwen - Santes Cariadon Cymru. Mae diwrnod Dwynwen yn cael ei ddathlu yn flynyddol ar 25 Ionawr ac mae mwy a mwy o gariadon Cymreig yn dewis dathlu Dydd Dwynwen yn hytrach na Dydd Sant Ffolant. Dywedodd Wynne iddo feddwl pan yn paentio'r llun y gallai fod o ddidordeb I amryw o gariadon yng Nghymru. "Mae Llanddwyn yn le pwysig i gariadon yng Nghymru ond freuddwydiais i erioed y byddai'r llun yn cael cartre yn yr Almaen "Ond dyna ni busnes yw busnes", meddai. |
This painting of Llanddwyn has been sold to a German art collector.
Ynys Llanddwyn, on the Anglesey coast is known as the home of Dwynwen- the Welsh Patron Saint of Love. Dwynwen's feast day is celebrated annually on 25 January and an increasing number of Welsh couples now opt to celebrate Dwynwen's Day rather than the more familiar St Valentine's Day in February. Wynne said that when he was working on the painting it had crossed his mind that some Welsh sweethearts could be interested in it. "Llanddwyn is an important place for Welsh lovers and I never imagined the picture would find a home in Germany - but I suppose that's business", he said |