SCROLL DOWN FOR THE ENGLISH LANGUAGE TEXT RHOI PANTYFEDWEN YN Y PICTIWR Syr David James 1887 - 1967 “Dyn y pictiwrs a wnaeth ei ffortiwn yn Llundain a’i wario yng Nghymru ...” Cafodd enw un tŷ arbennig yng Ngheredigion ddylanwad mawr ar y diwylliant Cymreig yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf a nawr mae’r union dŷ hwnnw yn ganolbwynt y sylw yng nghanol priddinas Lloegr Saif Pantyfedwen, cartref teulu Syr David James, y miliwnydd Cymraeg ac un o’r amlycaf o Gymry Llundain, yng nghefngwlad Ceredigion, nepell o fynachlog Ystrad Fflur. Daeth yr enw i amlygrwydd yn sgil cefnogaeth ariannol hael Syr David James i lawer o fudiadau Cymreig diwylliannol a chrefyddol ei famwlad a’r rhan fwyaf o’r cyfraniaidau yn cael eu henwi ar ôl aelodau o’i deulu a chartre’r teulu, Pantyfedwen. Bu farw Syr David yn 1967 a chafodd ei gladdu ym mynwent Ystrad Fflur. Nawr mae darlun sy’n bortread o dŷ Pantyfedwen yn cael ei arddangos yng nghanol Llundain trwy gydol Rhagfyr 2013 ac mae’n benllawn prosiect i’r arlunydd o Geredigion Wynne Melville Jones sydd wedi dangos darluniau o’i waith yn fisol yn y Ganolfan gydol y flwyddyn. Ganwyd Syr David yn Llundain i deulu o Geredigion yn 1887 ac fel llawer o Gardis eraill y cyfnod roedd gan y teulu rownd laeth yn Llundain, yn ardal Westminster Roedd gwreiddiau’r Teulu James yn nwfn yn naear Ceredigion ac oherwydd ei iechyd bregus fe anfonwyd y David James ifanc yn ôl i awyr iach Ceredigion a bu’n mynychu Coleg Ystrad Meurig i’w baratoi ar gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Yn sgil trafferthion ariannol enbyd ym musnes y teulu yn Llundain bu’n rhaid iddo ddychwelyd yno a fe ddatblygiodd ef ei hun awch at fod mewn busnes a buan daeth yn amlwg ym myd masnachol Llundain Roedd ei ddiddordebau masnachol yn eang ac yn cynnwys llaeth, grawn, bragu a bwydydd anifeiliaid. Daeth yn adnabyddus yn bennaf am ei ymwneud â byd y sinemâu yn y ddinas ac ef sefydlodd y Sinema Siwper gyntaf gyda 2000 o seddau yn Y Palladium yn Palmers Green yn 1920. Ar ei uchabwynt roedd ganddo 18 o sinemâu yn Llundain a’r rhai mwyaf enwog oedd Stiwdio 1 a 2 yn Oxford Street. Heddiw, mae llawer o bobl yn cysylltu’r enw Pantyfedwen gyda’r emyn-dôn adnabyddus a ddaeth I’r brig yn sgil cystadleuaeth a noddwyd gan Syr David ac mae’r emyn ‘Pantyfedwen’ yn cael ei dewis yn gyson gyda’r mwyaf poblogaidd ar flaen siartiau poblogrwydd gwylwyr S4C. Cyfranodd Syr David arian sylweddol tuag at nifer helaeth o achosion diwylliedig a chrefyddol yng Nghymru. Cychwynnodd Ymddiriedolaeth Pantyfedwn gyda’r nod o sicrhau buddsoddiad parhaol er lles pobol Cymru. Rhoddodd neuadd bentre a llyfrgell i’w fro genedigol ym Mhontrhydfendigaid ac wedi hynny adeiladodd Bafiliwn Pantyfedwen 2000 sedd fel cartref i’w eisteddfod newydd yn y Bont. Un o’r mudiadau Cymraeg i elwa’n sylweddol iawn o gyfoedd Syr David oedd yr Urdd. Prynodd westy i letia 100 o bobol yn Y Borth Y Grand Hotel a’i fedyddio yn Pantyfedwen cyn ei gyflwyno fel rhodd i’r mudiad. Cyfranodd hefyd at nifer o weithgareddau eraill y mudiad. Cyflwynodd gwpan Pantyfedwen ( sy’n fwy na chwpan yr FA) yn wobr flynyddol i bencampwyr pêl droed yr Urdd a Chwpan Teulu Pantyfedwen, y cwpan arian mwya yn y byd (nodwedd arbennig o brifwyl yr Urdd am flynyddoedd) i’r Sir ucha ei marciau yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn.. Gwaith Wynne Melville Jones sy’n frodor o Dregaron, yw’r darlun hwn sydd yn ola o gyfres o 12 llun o’i waith i gael eu dangos yn y Ganolfan. “Mae Pantyfedwen wedi, ac yn parhau i gyfrannu yn helaeth i’r ddiwylliant Cymreig ac mae arddangos y llun hwn yn y Ganolfan yn gyfrwng i bontio rhwng Ceredigion a Llundain ac yn gyfle i gydnabod cyfraniad un o’r amlycaf o Gymry Llundain a roddodd yn hael i Gymru ac i achosion Cymreig. “Erbyn hyn gall rhai o syniadau Syr David ymddangos braidd yn ormodol ond rwyn grediniol bod ei ewyllys i gyfrannu yn ariannol yn adlewyrchiad o ymdeimlad didwyll a dwfn er mwyn ceisio diogelu a hybu’r diwylliant Cymreig”, “Mae gennyf gof plentyn ohonon yn galw heibio droeon i’n cartref yn Nhregaron ac mae dangos y llun hwn ffordd i mi ddathlu ei gyfraniad i Gymru “Fe wnaeth ei ffortiwn yn Llundain a’i wario yng Nghymru”, medd Wynne. Mae’r darlun “PANTYFEDWEN gan Wynne Melville Jones yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Cymry Llundain 157- 163 Grays Inn Road, Llundain WC1X 8UE 0207837 3722 hyd Ionawr 2014 a gellir ei weld hefyd ar yr oriel ar-lein www.orielwynmel.co.uk Trodd Wynne Melville Jones, y dyn cysylltiadau cyhoeddus, yn ôl at ei gariad cyntaf, celf, wedi bwlch o 40 blynedd o heb fod yn cyffwrdd y brwsh paent. Bu’n haf prysur iddo eleni gydag arddangosfeydd o’i waith yn Nhregaron, Aberaeron, Abergwaun a Llundain. Mae ei lun cyfarwydd o gapel diarffordd Soar-y-Mynydd ger Tregaron erbyn hyn yng nghasgliad celf personol y cyn Arlywydd UDA Jimmy Carter. ENGLISH PUTTING PANTYFEDWEN IN THE PICTURE Sir David James “The cinema entrepreneur who made his fortune in London but spent it in Wales ...” Pantyfedwen, the family home of Sir David James, the London Welsh Philanthropist, lies in the heart of rural Ceredigion. The secluded country house became a household name in Wales during the second half of the last century as Sir David contributed financial hand-outs to support the cultural and religious life of his homeland with most of his contributions branded with the name of his family and home Sir David was born to Welsh parents in London in 1887 where the family, like many other Cardis, owned a milk round in the Westminster area. The family had deep roots in Ceredigion and due to ill-health the young David James was sent to Wales to be educated at Ystrad Meurig College in preparation for the ministry in the Church of Wales . Due to severe financial problems in the family business in London he returned to the metropolis where he developed an aptitude for business and became one of the most successful Welshmen in the commercial life of London Sir David’s business interests were varied and included milk, grain, brewing and animal feeds. He is best known for his involvement in the cinema world and opened London’s first Super Cinema at The Palladium in Palmers Green in 1920 with seating capacity of 2000. At the height of his interest in the business he owned 13 cinemas in London - his most famous being Studio 1 & 2 in Oxford Street. Today many people associate Pantyfedwen with one of the best known Welsh hymn tunes which was composed as a result of a competition sponsored by Sir David and ‘Pantyfedwen’ tops the charts and is regularly voted the most popular of all Welsh hymn tunes by viewers of S4C. Sir David contributed substantial amounts of money to numerous Welsh cultural and religious organisations including the Church in Wales and the Presbyterian Church of Wales. He established the Pantyfedwen Trust whose aim was to create a permanent endowment to benefit the people of Wales. He contributed a village hall and library to his home village of Pontrhydfendigaid and later constructed the Pantyfedwen Pavilion to seat 2000 people as a permanent home for his own Eisteddfod in the village. One of the main beneficiaries of his vast wealth was the Urdd youth organisation. He bought the 100 bed Grand Hotel In Borth, rebranded as Pantyfedwen, and gifted the seafront hotel to the organisation “lock stock but without the barrel”. Due to Sir David’s generosity Urdd members can boast a bigger trophy than the FA cup for the organisation’s winning soccer team annually, known as the Pantyfedwen Cup. He later presented the Urdd with ’ the largest solid silver rose bowl in the world’ The Pantyfedwen Family Cup, to be presented annually to the county winning the highest marks at the annual Urdd National Eisteddfod. Now, a painting of Pantyfedwen is currently being shown at the London Welsh Centre in Grays Inn Road in central London “Pantyfedwen”completes a 12 month showcase of paintings by Wynne Melville Jones throughout 2013 at the Welsh Centre “ Pantyfedwen has and continues to have a unique impact on Welsh cultural life and showing the picture of Sir David’s family home in London is my way of recognising his contribution to Welsh life. “ Today, some of Sir David’s ideas may appear immoderate in many ways but I have no doubt that his desire to support the “good causes” of his homeland was a reflection of his genuine deep concern for the survival of Welsh culture”, said Wynne “ I wanted the final painting to have a direct connection between Ceredigion and London, for historical reasons, and Sir David, one of the most prominent of London Welshmen, was an ideal choice for me personally as I have childhood memories of Sir David visiting our home in Tregaron “He made his money in London and spent it in Wales”, said Wynne The painting is displayed at the London Welsh Centre, Gray’s Inn Road, London until January 2014 and can also be seen on the on- line gallery www.orielwynmel.co.uk Wynne Melville Jones www.orielwynmel.co.uk Wynne Melville Jones, the pioneer of bilingual public relations in Wales has returned to his first love, visual art after a 40 year gap. He returned to the paint brush in 2011 and has since held one-man exhibitions in Aberystwyth, Bala, Fishguard, Tregaron, Aberaeron and London. His depiction of the most remote chapel in Wales Soar-y-Mynydd near Tregaron has crossed the Atlantic and is now included in former US President Jimmy Carter’s personal art collection. Sir David James 1887 - 1967
2 Comments
|
Yr Artist /
|